Mesurwyd cyflymder y llongau drwy daflu rhaff a oedd wedi ei glymu wrth astell. Roedd gan y rhaff glymau ynddi bob 50 troedfedd. Byddai awrwydr 30 eiliad yn cael ei droi drosodd, a byddai’r astell yn cael ei fwrw i’r môr. Wrth i’r rhaff ganlyn yr astell i’r môr, byddai’r morwyr yn cyfri nifer y clymau a fyddai wedi mynd heibio cyn i’r 30 eiliad yr awrwydr ddod i ben. Byddai hyn yn dweud wrthynt beth oedd eu cyflymder mewn notiau. 5 not = 5.8 milltir yr awr.
Er mwyn mesur dyfnder y dŵr yr oedd y llong yn hwylio ynddo, byddent yn taflu llinyn gyda phwysyn ar ei diwedd hyd nes y byddai’r llinyn yn dod yn rhydd.
Gyda diolch i Amgueddfa Ceredigion am y wybodaeth / With thanks to Ceredigion Museum for the information