Get me outta here!

Criw Madog

Dewch i ymuno â ni ar Fordaith Anhygoel Madog

Menu

Skip to content
  • Home
  • Y Cast / The Cast
    • Rhodri Trefor
    • Christopher Tom Harris
    • Endaf Eynon Davies
    • Ffion Wyn Bowen
    • Osian Rhys

Author Archives

Arad Gochhttp://www.aradgoch.orgCwmni Theatr i Blant a Phobl Ifanc. Theatre for children and Young People

Llongau Madog

June 6, 2014 by Arad Goch

Wele’n cychwyn dair ar ddeg,
O longau bach ar fore teg;
Wele Madog ddewr ei fron,
Yn gapten ar y llynges hon.
Mynd y mae i roi ei droed,
Ar le na welodd dyn erioed:
Antur enbyd ydyw hon,
Ond Duw a’i dal o don i don.

Ceiriog

 

Leave a comment

Geiriau i’r gan ‘Y LLONG A’I HWYLIAU GWYNION’ sy’n ymddangos yn y sioe

June 5, 2014 by Arad Goch

Wel dyma long a’i hwyliau gwynion: Be dybiech chwi!
I Gymry fyw fel boneddigion: Haliwch, tynnwch i gyd!

Be gawn ni’n fwyd i hogi’r dannedd: : Be dybiech chwi!
Ond bara caled  a menyn llynedd: Haliwch, tynnwch i gyd!

Be  gawn ni’n wledd ond un corn  malwen: Be dybiech chwi!
A chynffon cath a throed llygoden: Haliwch, tynnwch i gyd!

Be gawn ni’n ddiod yn y gali: Be dybiech chwi!
Ond gwaddod tebot wedi boddi: Haliwch, tynnwch i gyd!

Be gawn ni’n ddillad yn y caban: Be dybiech chwi!
Ond siaced felfed a throwsus sidan: Haliwch, tynnwch i gyd!

Be wnawn ni a’r perchennog truan: Be dybiech chwi!
Ei lwgu ar ei fwyd ei hunan: Haliwch, tynnwch i gyd!

Be fyddai’n agos at fy nghalon: Be dybiech chwi!
Ond te a chrempog yng Nghaernarfon: Haliwch, tynnwch i gyd!

Leave a comment

Geiriau i’r gan ‘CODI ANGOR’ sy’n ymddangos yn y sioe

June 5, 2014 by Arad Goch

Mae’n llenwi’n gyflym hogia bach
Mae’n cwrs ni ar y cefnfor;
Rhaid i ni bellach ganu’n iach:
Pryd cawn ni godi angor.

 

Mae’r brisyn  cryf yn hallt ei flas
Mae’n cwrs ni ar y cefnfor;
Wrth hwylio ar y mor mawr glas.
Pryd cawn ni godi angor.

 

Mae gwledydd pell tu draw i’r lli
Mae’n cwrs ni ar y cefnfor;
Yn barod i’n croesawu ni:
Pryd cawn ni godi angor.

 

Wel tynnwch rwyfau hogia bach
Fe awn ni ar y cefnfor;
I Gymru wen ry’n ni’n canu’n iach;
Pryd cawn ni godi angor.

 

Leave a comment

Fact of the week: Sail to Steam

June 5, 2014 by Arad Goch

Steam engines were invented before 1800, and were soon used in factories and railway engines. They were also used in ships from about 1830. The advantage of steam power was that steam ships were no longer dependent on the wind, and could move if there was no wind, or the wind was blowing in the wrong direction. This meant that ship owners could organise regular services from one port to another. It was also much easier to navigate steam ships into narrow ports.

By about 1850, steam ships arrived each week at the larger ports around the coast of Wales.

 

Gyda diolch i Amgueddfa Ceredigion am y wybodaeth / With thanks to Ceredigion Museum for the information

logo 2014 amg ceredigion

Leave a comment

Ffaith yr Wythnos: O longau hwylio i longau stem

June 5, 2014 by Arad Goch

Dyfeisiwyd peiriannau stêm cyn 1800 ac yn fuan ar ôl hynny cawsant eu defnyddio mewn ffatrïoedd ac ar y rheilffyrdd. O tua 1830, defnyddiwyd hwy hefyd ar longau. Un o fanteision pŵer stem oedd y ffaith nad oedd y llongau stêm bellach yn ddibynnol ar y gwynt, a gallent symud os nad oedd yna wynt, neu os oedd y gwynt yn chwythu yn y cyfeiriad anghywir. Golygai hyn y gallai perchnogion y llongau drefnu gwasanaethau rheolaidd o un porthladd i’r llall. Roedd yn llawer haws llywio llongau stêm i borthladdoedd cul.

Erbyn tua 1850, byddai llongau stêm yn cyrraedd y porthladdoeddmawr o amgylch arfordir Cymru bob wythnos.

 

Gyda diolch i Amgueddfa Ceredigion am y wybodaeth / With thanks to Ceredigion Museum for the information

logo 2014 amg ceredigion

Leave a comment

Cwlwm yr wythnos / Knot of the week

May 28, 2014 by Arad Goch

Cwlwm hwylraff
Cwlwm defnyddiol i gysylltu dwy raff o wahanol faint
Sheet bend
Useful for joining two ropes of different sizes together

sheet bend

Leave a comment

Fact of the week: Fishing

May 28, 2014 by Arad Goch

Fishing was a major seasonal activity of the ports of Ceredigion.
Herring
Herring gathered in shoals of the coast from September to January. At this time of year, coastal traders and deep sea mariners returned to their native villages to join the herring fishing.
They used 23-25 ft (7 – 7.6 m) boats with three masts, possibly introduced by Borth fishermen at the middle of the 19th century. The central mast was removed when herring fishing.
The boats went out with the incoming tide. When the nets were cast, the boats were allowed to drift until dawn while the men and boys slept in Y Soch (forepart) The boats were unloaded on the beaches, and the fish were counted. Catches of 4,000 – 5,000 herring could be caught in these drift nets.
Herring fishing was rather dependent on nature. There were times when the quantity was reduced, but there is no evidence that this was due to over fishing. At the middle of the 18th century, herring was plentiful, but towards the end of the century they were less common and died out almost completely by the 1920s-30s except at Milford.
Preservation
Herrings were preserved or cured by salting and drying them (bloated herrings) or smoking them in wood smoke (red herrings).

 

Gyda diolch i Amgueddfa Ceredigion am y wybodaeth / With thanks to Ceredigion Museum for the information

Leave a comment

Ffaith yr wythnos: Pysgota

May 28, 2014 by Arad Goch

Roedd pysgota yn weithgaredd tymhorol mawr ym mhorthladdoedd Ceredigion.

Penwaig
Casglu heigiau o benwaig oddi ar yr arfordir rhwng mis Medi a mis Ionawr. Ar yr adeg honno o’r flwyddyn, byddai masnachwyr arfordirol a morwyr yn dychwelyd i’w pentrefi brodorol i bysgota am benwaig.
Byddent yn defnyddio cychod 23-25 troedfedd (7 – 7.6 m) â thri mast. Mae’n bosibl iddynt gael eu cyflwyno gan bysgotwyr o’r Borth yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Byddai’r mast canolog yn cael yn cael ei dynnu oddi yno pan fyddent yn pysgota am benwaig.
Byddai’r cychod yn mynd allan gyda’r llanw. Pan fyddai’r rhwydi wedi eu taflu, byddent yn cael eu gadael i fynd gyda’r llif hyd nes y wawr wrth i’r dynion a’r bechgyn gysgu yn Y Soch (y pen blaen). Byddai’r cychod yn cael eu dadlwytho ar y traethau a byddai’r pysgod yn cael eu cyfrif. Gallai hyd at 4,000 – 5,000 o benwaig gael eu dal yn y rhwydi drifft hyn.
Byddai pysgota am benwaig yn eithaf dibynnol ar natur. Byddai yna rai adegau pan fyddai’r nifer wedi gostwng ond ni cheir tystiolaeth mai gorbysgota oedd yn gyfrifol am hyn. Yng nghanol y ddeunawfed ganrif, roedd digonedd o benwaig ond tua diwedd y ganrif roeddent yn llai cyffredin a bu ond y dim iddynt ddarfod amdanynt yn gyfan gwbl erbyn yr 1920au-30au, ac eithrio Aberdaugleddau.
Halltu
Byddai penwaig yn cael eu cadw neu eu cochi drwy eu halltu a’u sychu (penwaig hallt) neu drwy eu mygu mewn mwg pren (penwaig coch).

 

Gyda diolch i Amgueddfa Ceredigion am y wybodaeth / With thanks to Ceredigion Museum for the information

logo 2014 amg ceredigion

Leave a comment

Teclyn yr wythnos / Object of the week

May 21, 2014 by Arad Goch

OCTANT NEU SECSTANT a oedd yn mesur yr ongl rhwng yr haul ar ei uchaf a’r gorwel;
An OCTANT OR SEXTANT which measured the angle between the sun at its highest point and the horizon;

octant

logo 2014 amg ceredigion

Leave a comment

Fact of the week: Measuring speed

May 21, 2014 by Arad Goch

Measuring the speed of the ship was done by throwing out a rope fastened to a plank. The rope had a knot in it every 50 feet. A 30-second hourglass was turned over, and a plank was tossed into the ocean. The rope would start to play out, and they counted the number of knots that passed by the time the hourglass was empty. This told them their speed in knots. 5 knots = 5.8 miles per hour.
To measure the depth of water that the ship was in, they threw out a line with a weight on the end until the line became loose.

 

Gyda diolch i Amgueddfa Ceredigion am y wybodaeth / With thanks to Ceredigion Museum for the information

logo 2014 amg ceredigion

Leave a comment

Post navigation

← Older posts

Lluniau o Madog a’i griw gan Keith Morris

criw ar y llong
Madog_AradGoch_km013
Madog_AradGoch_km026
Madog_AradGoch_km048
Madog_AradGoch_km061
Madog_AradGoch_km062
Madog_AradGoch_km064
Madog_AradGoch_km073
Madog_AradGoch_km086
Madog_AradGoch_km106
Madog_AradGoch_km129
Madog_AradGoch_km145

Ymarferion corfforol!

IMG_0351
IMG_0315
IMG_0317
IMG_0319
IMG_0320
IMG_0321
IMG_0323
IMG_0325
IMG_0327
IMG_0328
IMG_0338

Madog a’i griw yn Eisteddfod Genedlaethol 2013

OLYMPUS DIGITAL CAMERA
OLYMPUS DIGITAL CAMERA
OLYMPUS DIGITAL CAMERA
OLYMPUS DIGITAL CAMERA
OLYMPUS DIGITAL CAMERA
OLYMPUS DIGITAL CAMERA
OLYMPUS DIGITAL CAMERA
OLYMPUS DIGITAL CAMERA
OLYMPUS DIGITAL CAMERA
OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Recent Comments

heulwendavies on Cog, be di Cog?
heulwendavies on Fuoch chi ‘rioed yn…

Blog Stats

  • 3,254 hits

Cwmni Theatr Arad Goch

Stryd y Baddon,
Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 2NN
01970 617998
www.aradgoch.org
Create a free website or blog at WordPress.com.
Criw Madog
Blog at WordPress.com.
Cancel
Privacy & Cookies: This site uses cookies. By continuing to use this website, you agree to their use.
To find out more, including how to control cookies, see here: Cookie Policy