PA GYMERIAD RYDECH CHI’N CHWARAE?
Wmffra, sy’n forwyr chwerw ag anfodlon i newid. Mae e wastad yn edrych yn negyddol ar y byd.
OEDRAN: 26
BLE CAWSOCH CHI EICH MAGU? Yng Nghaerfyrddin
PA YSGOL GYNRADD AC UWCHRADD FUOCH CHI YNDDYNT?
Ym, Ysgol Bro Myrddin am tamed bach. Wedyn Coleg Sir Gar.
BLE YDECH CHI’N BYW AR HYN O BRYD?
Caerfyrddin
SUT CAWSOCH CHI EICH YSBRYDOLI I WEITHIO YN Y BYD THEATR?
Dwi wastad wedi bod yn llawn egni. A ffindes i bod y byd drama yn rhoi lle i mi ddefnyddio’n egni er mwyn diddanu.
PA BROFIADAU ERAILL YDECH CHI WEDI CAEL YN Y BYD THEATR YNG NGHYMRU?
Rwyf wedi gweitho ‘da Theatr Na Nog, Cwmni’r Fran Wen a Chanolfan y Mileniwm.
PROFIAD BLAENOROL O WEITHIO GYDA ARAD GOCH:
Hwn yw fy sioe cyntaf!
SUT YDECH CHI’N TEIMLO AM GAEL BOD YN RHAN O GYNHYRCHIAD CYMRAEG MWYAF ERIOED CWMNI THEATR ARAD GOCH?
Wel mae’r set yn edrych yn wych! Mae’n lliwgar a dynamig. Rwy’n edrych ymlaen at gael perfformio’r sioe yn fy nhref enedigol, Caerfyrddin.
PAM DDYLAI POBL DDOD I WELD MORDAITH ANHYGOEL MADOG?
Mae egni i’r sioe a chymeriadau amrywiol fydd yn creu gwefr drawiadol.